Mae llond gwlad o wasanaethau a chynnyrch wedi’u lleoli’n gyfleus o dan un to yng nghanol y ddinas. Mae Marchnad Caerdydd yn siop-bob-dim wirioneddol ar gyfer eich holl anghenion coginio, garddio a chartref.
Mae’r lle’n llawn o stondinau sy’n gwegian o dan anrhegion a chardiau cyfarch, gyda ffrwythau, llysiau, cig a physgod ffres o fewn tafliad carreg i’w gilydd.
Ydych chi erioed wedi bod yn y farchnad ar fore dydd Sadwrn pan fydd y bara crystiog ffres wedi’i bentyrru mor uchel fel ei bod hi bron yn amhosibl gweld y staff?
Wrth gwrs, nid bwyd bendigedig yn unig sydd ym marchnad ganolog y ddinas - mae yno hefyd amrywiaeth eang o nwyddau i’r cartref, gemwaith, anrhegion i bawb o bob oed a hyd yn oed anifeiliaid anwes!
Os ydych chi angen ysgythru tlws neu eitem o emwaith, dyma'r lle i chi. A ble arall yn y ddinas y byddech chi’n dod o hyd i danciau pysgod, clirweledydd a detholiad o wigiau i gyd rhwng pedair wal?
Does dim angen crwydro o siop i siop i brynu’r hanfodion bychain – mae’r cyfan i’w cael mewn un ymweliad â’r farchnad.
ID: 31 Adolygwyd: 28/2/2008
Rhoi sylwadau am y dudalen hon