Skip to [ look again | Skip Navigation | Search | Home | ]
Main Content Area

Croeso i Wefan Farchnad Caerdydd

Mae Marchnad Caerdydd, adeilad Fictoraidd trawiadol wedi’i leoli yng nghanol prysurdeb modern y ddinas, yn rhoi profiad siopa unigryw i ymwelwyr.

O dan un to gwydr mae amrywiaeth anhygoel o gynnyrch, o sosbenni a phadelli i fara a menyn, o hoelion a sgriwiau i roc a rôl.

Mae Marchnad Caerdydd wedi bod yn masnachu mewn rhyw ffurf ers y 1700au, ac mae’n hŷn na phob siop fawr yng nghanol y ddinas. Mae'r farchnad wedi sefyll ar yr un safle ers 100 o flynyddoedd, ac er na ddewch chi bellach ar draws da byw wedi’u rhwymo y tu allan i’r drysau, mae rhai o’r hen nodweddion yn dal i’w gweld hyd heddiw.

Chwiliwch drwy'r wefan hon i gael blas o’r lle, ond cofiwch nad oes dim i guro’r profiad o grwydro heibio'r stondinau a phrofi golygfeydd ac arogleuon Marchnad Caerdydd drosoch eich hun.  

ID: 3 Adolygwyd: 6/1/2010
Rhoi sylwadau am y dudalen hon

Marchnad Caerdydd, Heol Eglwys Fair, Caerdydd, CF10 1AU
Ffôn: (+44) 029 2087 1214 | enquiries@cardiff-market.co.uk powered by COMS from Square Solutions